Le Bro Gozh au Stade Francis Le Blé le 7 avril prochain.

PHOTO CLAUDE PRIGENT / LE TELEGRAMME.  .

C’est Clarisse Lavanant qui interprètera le Bro Gozh en ouverture du match de football de ligue 2 entre le Stade Brestois et le Tours Football Club au Stade Francis Le Blé, le vendredi 7 avril prochain.

Une heureuse initiative brestoise après le Stade Rennais, le Rugby Club de Vannes, etc.

Le Bro Gozh en single et en clip avec Stivell, Servat, Tri Yann, Capart, Soldat Louis, Gwennyn, Lavanant, etc…

Comme nous l’avions déjà indiqué , Sony va éditer en juin prochain un CD dédié à la Bretagne « Breizh eo ma Bro » avec la participation de nombreux artistes bretons et amis de la Bretagne, CD qui se clôture par le Bro Gozh avec la participation d’Alan Stivell, Tri Yann, Gwennyn, Rozenn Talec, Cécile Corbel, Gilles Servat, Soldat Louis, Louis Capart, Clarisse Lavanant, Renaud Detressan.

C’est cette version qui sort actuellement sous la forme d’un clip et d’un single. Bravo aux initiateurs et aux artistes pour cette belle version de l’hymne national breton.

Cliquer sur l’image pour accéder au clip video.

Disponible en téléchargement ici: iTunes, Spotify , Deezer , Google Play .

 

Ouest-France, 11 mars 2017

En juin prochain, sortira une compilation de chansons liées à la Bretagne, interprétée par des artistes bretons ou d’ailleurs. Un premier clip, que nous avons publié en exclusivité, vient de sortir. Il s’agit de l’hymne breton interprété par une dizaine d’artistes d’ici.

C’est le fameux ‘Bro gozh ma zadoù », l’hyme breton. C’est en collégiale qu’il a été repris par Alan Stivell, les Tri Yann, Cécile Corbel, Gwennyn, Gilles Servat, Soldat Louis, Louis Capart, Renaud Detressan, Clarisse Lavanant, Rozenn Talec.Le clip montre tous ces chanteurs réunis et de belles images de la Bretagne, de Saint-Malo au château de Suscinio.

Prévu en juin, l’album réunit ces mêmes artistes mais aussi Raphael, Laurent Vouzy, Miossec, Jane Birkin, Boulevard des airs, Renan Luce ou encore Dan Ar Braz. C’est le navigateur-explorateur Olivier de Kersauson qui a été appelé pour jouer le fil conducteur entre les chansons.

Le Télégramme, 10 mars 2017

Sony Music réunit un équipage transgénérationnel pour rendre hommage à la Bretagne à travers une petite quinzaine de chansons, mêlant traditionnels et reprises contemporaines. Baptisé « Breizh eo ma bro » (« La Bretagne est mon pays »), l’album, attendu fin juin,  sera interprété en duo, trio et plus. Jane Birkin et Christophe Miossec y offriront une nouvelle version de « Brest », Dan Ar Braz revisitera « Borders of Salt » accompagné d’un orchestre symphonique, Clarisse Lavanant et Renan Luce mêleront leurs voix sur « La mémoire et la mer » de Léo Ferré, Alan Stivell reprendra son « Brian Boru » avec des invités prestigieux…

Un premier titre est désormais disponible. Pas n’importe lequel puisqu’il s’agit du « Bro gozh ma zadoù », considéré comme l’hymne breton. Pour libérer toute la puissance de son émotion, une dizaine de grandes voix de Bretagne se sont unies : Alan Stivell, Gilles Servat, Louis Capart, Tri Yann, Soldat Louis, Renaud Detressan, Cécile Corbel, Gwennyn, Clarisse Lavanant et Rozenn Talec.

L’extrait suivant verra Boulevard des Airs interpréter « Le bagad de Lann Bihoué » en compagnie des héros de la chanson de Souchon

Lorient: Grant Llewellyn chante le Bro Gozh au Grand Théâtre

llewellyn-grant-052007

Grant Llewellyn, directeur musical gallois de l’Orchestre Symphonique de Bretagne.

Lors du concert donné par l’Orchestre Symphonique de Bretagne au Grand Théâtre de Lorient, son directeur musical gallois, Grant Llywellyn a pris la parole pour indiquer qu’en ce mercredi 1er mars, jour de la Saint David, fête nationale galloise, il souhaitait chanter le Hen Wlad, l’hymne national gallois et que le Bro Gozh ayant la même mélodie, il proposait au public de le chanter avec lui. Ce que fit une partie du public.

Bravo à M. Llywellyn et aux chanteurs du public.

Quand BBC Wales évoque la Bretagne, le Bro Gozh et le Comité Bro Gozh en gallois

BBC Cymru, 1er mars 2017

Tra bydd gorymdeithiau a digwyddiadau’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru i ddathlu Gŵyl Ddewi’r wythnos hon, bydd Llydawyr hefyd yn ymuno yn y dathliadau mewn gŵyl arbennig.

Bydd Goeul Divi 2017: Fete Nationale Galloise rhwng 27 Chwefror a 4 Mawrth yn cynnwys arddangosfa ar Gymru, dangosiad o’r ffilm How Green Was my Valley, gwledd a chynhadledd i drafod sefydliadau Cymreig.

Wyth pwyllgor gefeillio yn ardal Kemper sydd wedi dod at ei gilydd i drefnu’r ŵyl, gan gynnwys pwyllgorau Plogoneg a Llandysul, Brieg a Rhuthun, Ploveilh a Chrymych a Ploneour Lanwern a Llandybïe.

« Dyma’r ŵyl gyntaf i ni ei threfnu, » meddai Yann Bêr Rivalin, un o’r trefnwyr, « ac rydym yn gobeithio ei chynnal eto’r flwyddyn nesaf. »

Gyda’r Gymraeg a’r Llydaweg yn chwaer ieithoedd, mae’r ŵyl yn cael ei gweld fel ffordd arall o gynnal y cysylltiad sydd wedi datblygu rhwng Cymru a Llydaw.

« Un o amcanion y pwyllgorau gefeillio yw codi ymwybyddiaeth am Gymru ymhlith Llydawyr, ac mae hyn yn ffordd dda o wneud hynny, » medd Mr Rivalin.

« Mae dros 40 o bwyllgorau gefeillio gan Gymru a Llydaw. Cafodd y rhai yn ardal Kemper eu creu yn niwedd yr ’80au a dechrau’r ’90au, ond mae’r genhedlaeth a oedd yn gyfrifol am eu sefydlu yn mynd yn hŷn, a dydy’r genhedlaeth iau ddim yn gweld yr angen am bwyllgorau a theithiau cyfnewidiol.

« Maen nhw’n poeni fwy am fywyd bob dydd, oherwydd anhawsterau economaidd, ac mae ganddyn nhw fwy o ddiddordeb yn eu bywydau teuluol na’u bywydau cymdeithasol.

« Felly, rydyn ni’n edrych am ffyrdd newydd o gynnal y berthynas. »

_94883307_34f69fb5-4b7a-412a-b57c-81ae51a4857f

O’r dde i’r chwith: Yann Bêr Rivalin, Gwenaël Le Goanvic, Alain Kerouedan ac Alain Hémon yn dangos eu cefnogaeth i dîm pêl-droed Cymru yn ystod pencampwriaeth Euro 2016

‘O’r un gwreiddyn’

Mae Mr Rivalin yn meddwl bod cynnal y cysylltiadau’n bwysig: « Mae’r Cymry a’r Llydawyr o’r un gwreiddyn, mae’n hieithoedd ni’n debyg, mae gennym ni broblemau diwylliannol, economaidd a gwleidyddol tebyg, ond rydyn ni’n ddigon gwahanol i wneud darganfod diwylliannau’n gilydd yn ddiddorol. »

Y llynedd, cafodd y cysylltiadau eu hatgyfnerthu, pan ddewisodd tîm pêl-droed Cymru aros mewn gwesty yn Dinard yn Llydaw yn ystod pencampwriaeth Euro 2016.

Tra’n aros yno, bu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn defnyddio’r Llydaweg yn ogystal â’r Gymraeg, y Saesneg a’r Ffrangeg yn ei chyhoeddiadau – cam a gafodd ei werthfawrogi gan ymgyrchwyr a chefnogwyr yr iaith yno.

« Roedd yn golygu llawer i ni fod yr iaith yn cael ei defnyddio a’i gweld, » meddai Mikael Baudu, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm yn Llydaw.

gallesbretagnedinard

Plant Llydaw’n croesawu tîm pêl-droed Cymru i Dinard yn haf 2016

Yn ôl Mr Baudu, mae’r ffaith fod Hen Wlad Fy Nhadau wedi ei chanu ar ddechrau gemau Cymru yn y bencampwriaeth hefyd wedi taro nodyn gyda’r Llydawyr.

Rai blynyddoedd yn ôl, fe gynhyrchodd Mr Baudu ffilm yn olrhain hanes anthem genedlaethol Llydaw, Bro Gozh Ma Zadoù.

Er nad yw’n gyfeithiad gair-am-air o Hen Wlad Fy Nhadau, mae’r anthem yn cael ei chanu ar yr un dôn – tôn a gyfansoddwyd gan James James o Bontypridd ym 1856, i eiriau ei dad, Evan James.

Cafodd yr anthem ei throsglwyddo o Gymru i Lydaw a Chernyw ddiwedd y 19eg ganrif drwy Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Cafodd y geiriau sy’n cael eu canu heddiw eu cyfieithu gan François Taldir-Jaffrennou, a’i dewis yn « gân genedlaethol » Llydaw ym 1903, gan banel o Undeb Rhanbarthol Llydaw mewn cynhadledd yn Lesneven.

Dros y degawdau, serch hynny, mae ymwybyddiaeth Llydawyr o’u hanthem wedi pylu.

« Tan yn ddiweddar, roedd siaradwyr Llydaweg ac ymgyrchwyr yn ymwybodol ohoni, ond ddim pawb », meddai Mikael Baudu.

Dyna arweiniodd at ymdrechion i godi ymwybyddiaeth. Yn 2004, cafodd gŵyl ei threfnu yn Lesneven i ddathlu canrif ers mabwysiadu’r anthem.

Mae cymdeithas wedi ei sefydlu hefyd: Poellgor Bro Gozh Ma Zadoù.

« Rydym yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth, drwy geisio annog canu’r anthem mewn digwyddiadau mawr yn Llydaw », medd cadeirydd y pwyllgor, Jacques-Yves Le Touze.

« Mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o’r anthem erbyn hyn, diolch hefyd i ddigwyddiadau chwaraeon. »

Un garreg filltir bwysig oedd canu’r anthem yn rownd derfynol Cwpan Pêl-droed Ffrainc rhwng dau dîm o Lydaw – Guingamp a Rennes – ym Mharis yn 2009.

Fel rhan arall o weithgareddau’r pwyllgor, mae gwobr yn cael ei rhoi’n flynyddol i artist neu artistiaid, yn gydnabyddiaeth o’u cyfraniad i boblogeiddio’r anthem.

Ymhlith yr enillwyr, mae’r cerddor a’r canwr, Alan Stivell, a’r gantores, Nolwen Leroy.

plouguerneau-le-prix-bro-gozh-2016-decerne-kanomp-breizh

Enillydd gwobr Bro Gozh Ma Zadou 2016 yn derbyn tlws o lechen wedi ei cherfio gan y cerfiwr a’r llythrennwr o Sir Gaerfyrddin, Ieuan Rees

Wedi i ddathliadau Gŵyl Ddewi fynd rhagddynt, bydd tîm rygbi Cymru yn gobeithio adfer peth hunanbarch yn y gêm yn erbyn Ffrainc ym Mharis ym mhencampwriaeth y chwe gwlad ar 18 Mawrth.

Mae’n bosib, yn ôl Mikael Baudu, y bydd ambell Lydawr yn y dorf, fydd yn canu’r geiriau Llydaweg i Hen Wlad Fy Nhadau.

« Mae rhai Llydawyr yn cefnogi Cymru yn hytrach na’r Ffrancwyr beth bynnag! »